Bangor, Gwynedd. Cymru
atgofmelys@gmail.com

Croeso i Atgofion Melys

Amgylchedd 360 ° Rhithwir ar gyfer Gofal Iechyd a Lles yng Nghymru

Mae Atgofion Melys yn grŵp o unigolion o’r Gogledd, sydd wedi dod ynghyd i gydweithio i helpu pobl yn ein cymunedau trwy dechnoleg. Fe wnaethom adnabod angen am gynnwys pwrpasol o ansawdd uchel ar gyfer amrywiaeth eang o ddefnyddiau ar hyd y sectorau Iechyd a lles yng Nghymru.

Mae’r rhan fwyaf o’r cynnwys sy’n cael ei greu ar ffurf clipiau a theithiau fideo 360 VR. Mae rhai o’r fideos VR ar gael ar ein Sianel You Tube ond er mwyn cael y profiad gorau i’ch defnyddwyr, maen gwell llwytho ar benwisg VR. Mae hyn er mwyn eu gweld gyda’r manylder orau (heb gyfyngiadau wi-fi), a chlywed y traciau sain ambisonig fel y’u bwriadwyd.

Fel gyda’r clipiau, mae’r Teithiau VR ar gael i’w gweld ar-lein ar unrhyw ddyfais, fel rheol gellir eu lawr lwytho i’w gwylio oddi ar-lein ar lwyfannau Mac a Windows o’r sgrin agoriadol, ond dylid eu gweld ar benwisg VR wedi’i lwytho ymlaen llaw i’w gweld ar ei orau.

Mae’r holl adnoddau am ddim neu gyda phriodoliad ‘Creative Commons‘. Mae yna hefyd, cysylltiadau â sefydliadau a allai fod o gymorth, a hefyd i sefydliadau a allai ddarparu hyfforddiant a chefnogaeth am ddim i weithwyr yn y sector.