Bangor, Gwynedd. Cymru
atgofmelys@gmail.com

Atgofion Melys - Sweet Memories

Amgylchedd 360 ° Rhithwir ar gyfer gofal iechyd a lles yng Nghymru

Gwaith ymgynghori a chynnwys

O’r cychwyn cyntaf, mae prosiectau wedi’u cynllunio ar y cyd gyda’r cleient. Yr ydym yn ymgynghori, dylunio a chreu cynnwys pwrpasol.

Dylunio a chyflenwi prosiectau

  
Darparu amgylcheddau 360 ° VR pwrpasol, a gynhyrchir ar gyfer y cleient mewn 4k gyda sain gofodol.

Hyfforddiant a chefnogaeth

  
 Rhoddir hyfforddiant a chymorth i ofalwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
 

Amgylcheddau 360° Realiti Rhithiol at wahanol bwrpas

Rydym yn creu cynnwys sy’n berthnasol ac wedi ei deilwra at yr unigolyn a chynnwys sy’n bwrpasol ar gyfer pobl Cymru.

Ymgynghori/chynllunio
Adnabod anghenion
Creu cynnwys
Hyfforddi’r gweithlu
Llwytho a dosbarthu
Gwirio a gwerthuso

Ein cynnig

Mae’r hyn ydym yn ei gynnig yn costio £200 yn unig. Do, mi ddarllenoch yn iawn, £200! Dyna yw cost y benwisg rithiol, a gallwch eu prynu yn Argos neu PC World (neu unrhyw siop debyg).
Mae’r cynnig ar gael i bawb yng Nghymru yn unig.

Mae’r pecyn yn cynnwys y canlynol

Amlinellir y pecyn a ddarparwn yn y llif gwaith a ddangosir uchod, ond yn y bôn mae’n cynnwys tair prif elfen fel y dangosir isod

Cynnwys wedi’i deilwra

Fe fydd y cynnwys wedi ei deilwra at eich anghenion chi. Yr ydym wedi creu llyfrgell enfawr o gynnwys 360° ymdrochol. Mae hyn yn cynnwys golygfeydd o bob rhan o Gymru. Mae’r rhain wedi eu creu yn benodol ar gyfer defnyddwyr iechyd a lles.

Cefnogaeth ac hyfforddiant

Mae’r gefnogaeth y byddwch yn ei derbyn yn cael ei darparu fel rhan o raglen Cynhwysiant Digidol a
gyflwynir gan Gymunedau Digidol Cymru. Byddant yn darparu hyfforddiant i’r staff ac yn dangos y
defnydd o VR i’ch cleientiaid yn eich lleoliad.

Caledwedd ac meddalwedd

Yr ydym yn awgrymu eich bod yn prynu’r penwisg Oculus Go sy’n costio ychydig o dan £200 yr un gyda digon o le arnynt i 20 ffilm. Fe wnawn lwytho’r cynnwys yn ól eich angen. Mae’r penwisg Android hwn yn gallu cysylltu gyda’r rhyngrwyd gan roi mynediad i filoedd o Apiau.

EIN STORI

Sut wnaethom ddechrau’r daith arbennig hon?

Mae Atgofion Melys yn grŵp o unigolion o’r Gogledd, sydd wedi dod ynghyd i gydweithio i helpu pobl yn ein cymunedau trwy dechnoleg. Fe wnaethom adnabod angen am gynnwys pwrpasol o ansawdd uchel ar gyfer amrywiaeth eang o ddefnyddiau ar hyd y sector Iechyd a lles yng Nghymru.

Darllen mwy
Ein gweledigaeth

Cynhyrchu’r gorau i bobl sydd gwir eu hangen

Mae’r profiad yn fwy effeithiol pan mae’r cynnwys wedi ei greu yn bwrpasol ac wedi’i gydlynnu mewn ffordd sy’n gweddu orau i’r defnyddiwr. Trwy gynhyrchu deunydd sy’n uniongyrchol berthnasol naill ai’n ieithyddol, yn ddaearyddol, neu o gyfnod penodol ac o ganlyniad gellir sicrhau’r profiad gorau i’r unigolyn.

Darllen mwy

Dyma rai enghreifftiau o brosiectau a ffilmiwyd mewn lleoliadau ledled Cymru. Ni fydd yr ansawdd cystal ac y bydd ar y penwisg rhithiol.

Porthor

rhagflas

Ty 70au Rhyd Y Car

rhagflas

Gerddi Bodnant

rhagflas

Rhaeadr Ddu

rhagflas

Penmon

rhagflas

Belio Cefn Gwyn

rhagflas

Ffos Anoddun – Fairy Glen

rhagflas

Coedwig Parc Menai

rhagflas

Afon Lliw

rhagflas

Cigydd Caernarfon

rhagflas

Porth Colmon

rhagflas

Mart Dolgellau

rhagflas

Cysylltwch gyda ni

Am ragor o wybodaeth am ein gwasanaethau